Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif (Cy. )
Y GYMRAEG
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“Mesur 2011”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”). Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38).
Mae adran 26 o Fesur 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad 32 o gyrff a restrir yn Atodlen 6 i’r Rheoliadau (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff”).
Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn rheoliad 3(2)) i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau. Mae adran 67 o Fesur 2011 yn darparu nad awdurdodir y Comisiynydd i’w gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safon os yw’r safon honno, ac i’r graddau y mae’r safon honno, yn ymwneud â darlledu. Fodd bynnag, nid yw darlledu yn cynnwys unrhyw weithgaredd a gyflawnir mewn cysylltiad â darlledu. Felly, rhaid darllen yr awdurdodiad yn rheoliad 3 yng ngoleuni adran 67.
Yn unol ag adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd drwy hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau sy’n benodol gymwys iddo. I adlewyrchu hynny, mae’r safonau a bennir yn y Rheoliadau wedi eu geirio ar ffurf naratif ail berson, hynny yw ar ffurf “rhaid ichi” (ac ystyr “chi” yw’r corff perthnasol ym mhob achos).
Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 44 o Fesur 2011, caiff y Comisiynydd (os yw hynny’n rhesymol ac yn gymesur a’i fod yn dymuno gwneud hynny) ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un safon o dan rai amgylchiadau, a safon arall o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, os yw un safon yn benodol gymwys i gorff, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno o dan rai amgylchiadau, ond nid o dan amgylchiadau eraill, neu ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon honno mewn rhai ardaloedd yn unig. Yn yr un modd os oes dwy neu ragor o safonau yn ymwneud ag ymddygiad penodol (er enghraifft, safonau 8 i 11 mewn perthynas ag ateb galwadau ffôn), caiff y Comisiynydd drwy gyfrwng hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau hynny’n unig, neu â safonau gwahanol ar adegau gwahanol, o dan amgylchiadau gwahanol, neu mewn ardaloedd gwahanol, fel sy’n briodol i’r corff. Nid oes rheidrwydd ar y Comisiynydd felly i’w gwneud yn ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon.
Yn unol ag adran 46 o Fesur 2011, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio a roddir i gorff ddatgan y diwrnod gosod, neu’r diwrnodau gosod; hynny yw, y diwrnod neu’r diwrnodau y daw’n ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon (neu gydymffurfio â safon mewn modd penodol). Gan ddefnyddio’r hyblygrwydd a ddarperir gan adran 46, caiff y Comisiynydd osod diwrnod gosod buan i gorff gydymffurfio â safon (cyn belled â bod hynny o leiaf 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r hysbysiad cydymffurfio perthnasol i’r corff), neu osod diwrnod gosod ymhellach i’r dyfodol (er enghraifft mewn perthynas â safonau sy’n fwy heriol).
Pan fo safon a bennir yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig gael ei arddangos neu ei ddarparu yn Gymraeg, neu i wasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg, nid yw hyn yn golygu bod rhaid arddangos neu ddarparu’r deunydd yn Gymraeg yn unig, na bod rhaid i’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg yn unig (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol).
Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau. Mae adran 28 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cyflenwi gwasanaethau” yw safon sy’n ymwneud â gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau, ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, pan gyflawnir y gweithgaredd hwnnw. Ystyr “gweithgaredd cyflenwi gwasanaethau” yw bod person yn cyflenwi gwasanaethau i berson arall, neu yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau i’r person hwnnw neu i drydydd person.
Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau yn pennu safonau llunio polisi. Mae adran 29 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon llunio polisi” yw safon sy'n ymwneud â phenderfyniad polisi ac y bwriedir iddi sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn ystyried un neu ragor o’r canlynol—
(a) pa effeithiau, os o gwbl, (a pha un a yw'r effeithiau’n bositif neu'n andwyol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;
(b) sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;
(c) sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw'r penderfyniad yn cael effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau yn pennu safonau gweithredu. Mae adran 30 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon gweithredu” yw safon sy'n ymwneud â swyddogaethau, neu fusnes neu ymgymeriad arall (“gweithgareddau perthnasol”) person (“A”), ac y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—
(a) gan A wrth i A wneud ei weithgareddau perthnasol,
(b) gan A a pherson arall wrth iddynt ddelio â'i gilydd mewn cysylltiad â gweithgareddau perthnasol A, neu
(c) gan berson heblaw A wrth iddo wneud gweithgareddau at ddibenion gweithgareddau perthnasol A, neu mewn cysylltiad â hwy.
Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau yn pennu safonau cadw cofnodion. Mae adran 32 o Fesur 2011 yn darparu mai ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy’n ymwneud â chadw cofnodion ynghylch safonau penodedig eraill, cofnodion ynghylch cwynion mewn perthynas â chydymffurfedd â safonau penodedig eraill, neu gofnodion ynghylch cwynion eraill sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion atodol. Mae’r rhain yn fathau penodol o safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu a safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â’r materion y cyfeirir atynt yn adran 27(4) o Fesur 2011 (sy’n atodol i’r materion hynny yr ymdrinnir â hwy yn Atodlenni 1 i 4).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif (Cy. )
Y GYMRAEG
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016
Gwnaed ***
Yn dod i rym 16 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), ac wedi cael cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Chwefror 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff ond nid person sydd wedi ei benodi i gorff gan Weinidogion Cymru, un o Weinidogion y Goron neu Ei Mawrhydi (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);
ystyr “corff” (“body”) yw person a restrir yn Atodlen 6;
ystyr “unigolyn” (“individual”) yw aelod o’r cyhoedd.
(5) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;
(b) yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.
Safonau a bennir
2.—(1) Yn Atodlen 1—
(a) mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;
(b) mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;
(c) mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(2) Yn Atodlen 2—
(a) mae Rhan 1 yn pennu safonau llunio polisi;
(b) mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(3) Yn Atodlen 3—
(a) mae Rhan 1 yn pennu safonau gweithredu;
(b) mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;
(c) mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymardroddion.
(4) Yn Atodlen 4—
(a) mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;
(b) mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
(5) Mae Atodlen 5 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 i 4 ac, yn benodol—
(a) mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau sy’n ymdrin â materion atodol;
(b) mae Rhan 2 yn pennu safonau llunio polisi sy’n ymdrin â materion atodol;
(c) mae Rhan 3 yn pennu safonau gweithredu sy’n ymdrin â materion atodol;
(ch) mae Rhan 4 yn pennu safonau cadw cofnodion sy’n ymdrin â materion atodol;
(d) mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r safonau atodol;
(dd) mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol.
Safonau sy’n benodol gymwys
3.—(1) Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi([2]) Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r personau a restrir yn Atodlen 6 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir o dan reoliad 2.
(2) Ond nid awdurdodir y Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i—
(a) Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safonau a ganlyn—
(i) 94 i 140,
(ii) 145 i 148,
(iii) 161 i 166;
(b) Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safonau a ganlyn—
(i) 1 i 93,
(ii) 144,
(iii) 149 i 160.
Enw
Prif Weinidog Cymru
Dyddiad
ATODLEN 1 Rheoliad 2(1)
Safonau cyflenwi gwasanaethau
RHAN 1
Y SAFONAU
RHAN 2
SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG
22 |
Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan nodir hynny). |
TABL 1
Rhes |
Colofn 1
Prif safon |
Colofn 2
Safon ddibynnol |
(1)
|
Ateb gohebiaeth
Safon 1 |
Safon 7 |
(2) |
Gohebu ag aelodau o’r un aelwyd
Safon 3 |
Safon 6 |
(3) |
Gohebu â sawl person
Safon 4 |
Safon 6 Safon 7 |
(4) |
Safonau cyffredinol ynghylch gohebu
Safon 5 |
Safon 6 Safon 7 |
(5)
|
Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg
Safon 7 |
Safon 1 |
(6)
|
Cael galwadau ffôn
Safon 9 |
Un neu ragor o’r canlynol: Safon 10 Safon 11 |
(7)
|
Cael galwadau ffôn
Safon 10 neu 11 |
Safon 9 Safon 14 |
(8)
|
Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau ffôn yn Gymraeg
Safon 14 |
Un neu ragor o’r canlynol: Safon 10 Safon 11
a hefyd Safon 16, a Safon 17 |
(9)
|
Cyfarfodydd ag un person
Safon 24 |
Un neu ragor o’r canlynol: Safon 24A Safon 24B |
(10)
|
Cyfarfodydd ag un person
Safon 24A neu 24B |
Safon 24 |
(11)
|
Cyfarfodydd â mwy nag un person
Safon 25 |
Un neu ragor o’r canlynol: Safon 25A Safon 25B Safon 25C
a hefyd un neu ragor o’r canlynol:
Safon 25CH Safon 25D |
(12)
|
Cyfarfodydd â mwy nag un person
Safon 25A, 25B, 25C, 25CH neu 25D |
Safon 25 |
(13)
|
Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 26 |
Safon 29 |
(14)
|
Cyfarfodydd cyhoeddus
Safon 29 |
Safon 26 |
(15) |
Dogfennau
Safon 36, 37, 38, 39, 40, 41 neu 43 |
Safon 44 Safon 45 |
(16) |
Ffurflenni
Safon 46 |
Safon 46A Safon 46B |
(17)
|
Gwefannau
Safon 48, 49 neu 50 |
Safon 51 |
(18)
|
Arwyddion
Safon 57 neu 58 |
Safon 59 |
(19)
|
Derbynfa
Safon 60 |
Safon 63 Safon 64 |
(20)
|
Derbynfa
Safon 61 |
Safon 61A |
(21)
|
Derbynfa
Safon 62 |
Safon 63 |
(22)
|
Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg mewn derbynfa
Safon 63 |
Un neu ragor o’r canlynol: Safon 60 Safon 62 |
(23)
|
Grantiau
Safon 68 |
Safon 68A Safon 71 |
(24)
|
Grantiau
Safon 69 neu 70 |
Safon 68 Safon 68A |
(25)
|
Contractau
Safon 73 |
Safon 73A Safon 76 |
(26)
|
Contractau
Safon 74 neu 75 |
Safon 73 Safon 73A |
RHAN 3
DEHONGLI’R SAFONAU
23 |
Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
|
24 |
Nid yw’r safonau a bennir ond yn gymwys i’r graddau y mae corff yn— (a) cyflenwi gwasanaethau i berson, neu (b) yn delio ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi gwasanaethau— (i) i’r person arall hwnnw, neu (ii) i drydydd person.
|
25 |
Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw.
|
26 |
At ddibenion y safonau— (a) nid yw gofyniad i lunio unrhyw ddeunydd ysgrifenedig i’w anfon, i’w gyhoeddi, i’w arddangos, i’w roi ar gael neu i’w ddyroddi yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r deunydd, ei anfon, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei roi ar gael neu ei ddyroddi, nac yn golygu y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny’n cael ei nodi’n benodol yn y safon); (b) nid yw gofyniad bod gwasanaeth i gael ei ddarparu yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid darparu’r gwasanaeth hwnnw (oni bai bod hynny’n cael ei ddatgan yn benodol yn y safon).
|
27 |
(1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”). (2) Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3). (3) Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol— (a) â’i Gynllun Iaith Gymraeg; (b) â dyletswydd i gydymffurfio â safonau; (c) â Rheolau Sefydlog y Cynulliad; (ch) ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu (d) â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad. (4) Yn y paragraff hwn— (a) ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([3]); (b) ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011; (c) ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006([4]); (ch) ystyr “Rheolau Sefydlog y Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006; (d) ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.
|
28 |
(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraffau (a) i (c) neu os bodlonir yr amod ym mharagraff (2), nid yw’n ofynnol i berson neu gorff a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004([5]) (“Deddf 2004”) gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau mewn cysylltiad â gweithgaredd neu wasanaeth y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) — (a) Yr amod cyntaf yw bod argyfwng wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd. (b) Yr ail amod yw bod y gweithgaredd sy’n cael ei gyflawni neu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y person neu’r corff yn angenrheidiol at ddiben atal, rheoli neu leddfu agwedd ar argyfwng neu effaith argyfwng. (c) Y trydydd amod yw bod yr angen am y gweithgaredd neu’r gwasanaeth y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yn daer. (2) Yr amod yw bod y person neu’r corff yn ymgymryd ag ymarfer argyfwng. (3) Yn y paragraff hwn, mae i “argyfwng” yr un ystyr ag a roddir i “emergency” yn adran 1 o Ddeddf 2004 yn ddarostyngedig i baragraff (4). (4) Os bodlonir yr amod ym mharagraff (2), yna mae’r cyfeiriad at “argyfwng” yn is-baragraff (1)(b) i gael ei ddarllen fel “y ffug sefyllfa argyfwng”.
|
29 |
At ddibenion safonau 2, 3 ac 21, mae corff yn gohebu ag unigolyn neu’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf pan fydd yn gohebu neu’n ffonio’r person am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon.
|
30 |
Yn safon 22, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso rhifau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol.
|
31 |
Nid yw safon 32 yn gymwys i— (a) perfformiadau o gerddoriaeth; (b) cynyrchiadau artistig neu ddramatig; (c) seminarau neu gyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â’r perfformiad neu’r cynhyrchiad; (ch) unrhyw recordiad o’r perfformiad, y cynhyrchiad, y seminar neu’r cyflwyniad llafar.
|
32 |
Nid yw safonau 32 a 83 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng.
|
33 |
Pan fo safon yn cyfeirio at ddeunydd sydd i’w lunio yn Gymraeg (ac eithrio safonau 48 i 53 (gwefannau ac apiau), 54 a 55 (cyfryngau cymdeithasol) a 72 (gwahoddiad i dendro)), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg neu at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun); (b) maint y deunydd; (c) lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus; (ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; (d) fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd.
|
34 |
At ddibenion safonau 36, 37, 40, 43 a 46, nid yw’r cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunydd arall sydd ar gael i’r cyhoedd, neu sy’n cael eu llunio at ddefnydd y cyhoedd, yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael i’r cyhoedd yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000([6]).
|
35 |
(1) Nid yw safonau 46, 46A a 46B yn gymwys i’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3). (2) At ddibenion safon 2, nid yw’n ofynnol i gorff anfon fersiwn Gymraeg o’r ffurflenni a restrir yn is-baragraff (3). (3) Y ffurflenni yw— (a) ffurflenni a ddefnyddir gan gorff i recriwtio cyflogeion (gweler safonau 133A, 134 a 135 mewn perthynas â recriwtio); (b) ffurflenni a ddefnyddir wrth wneud cais am gymorth grant gan gorff (gweler safonau 67 i 71 mewn perthynas â cheisiadau am grantiau); (c) ffurflenni a ddefnyddir pan gyflwynir tendr i gontractio gyda chorff (gweler safonau 72 i 76 mewn perthynas â thendro am gontract).
|
36 |
Nid yw safonau 36, 43, 44 a 45 yn gymwys i ddeddfiad a wneir gan gorff neu i ddeddfiad drafft a lunnir gan gorff.
|
37 |
Nid yw safonau 36, 39, 40 a 43 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu a gynhwysir mewn dogfen, llyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn.
|
38 |
Nid yw safon 41 yn gymwys i reolau a bennir mewn deddfiad neu mewn deddfiad drafft a lunnir gan gorff.
|
39 |
Nid yw safonau 48 i 52 (gwefannau) yn gymwys i— (a) dogfennau y darperir dolen iddynt ar wefan, deunydd hysbysebu ar wefan, na chlipiau fideo a sain ar wefan (gweler safonau 36 i 45 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff); (b) gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar wefan corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau, neu ar fforwm drafod).
|
40
|
(1) At ddiben safon 53, ystyr “ap” yw cymhwysiad meddalwedd sydd wedi ei gynllunio i gyflawni tasg benodol ar ddyfais electronig. (2) Nid yw safon 53 yn gymwys i unrhyw ddeunydd hysbysebu ar ap (gweler safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff). |
41 |
At ddiben safonau 48 i 53 (gwefannau ac apiau) a safonau 54 a 55 (cyfryngau cymdeithasol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill (ac yn ychwanegol at faterion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), neu (b) pan gyhoeddir deunydd ar y wefan, yr ap neu’r cyfryngau cymdeithasol; ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â deunydd Saesneg, nac ar dudalen y mae person yn debygol o ddod o hyd iddi cyn y dudalen Saesneg wrth chwilio.
|
42 |
(1) Nid yw safonau 1 i 7 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 54 a 55 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol). (2) Nid yw safonau 48 i 53 (gwefannau ac apiau) yn gymwys i’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 54 a 55 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol).
|
43 |
Nid yw safonau 54 a 55 (cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i— (a) dogfennau y darperir dolen iddynt drwy’r cyfryngau cymdeithasol, nac i glipiau fideo a sain a ddarperir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safonau 36 i 45 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau, a safon 33 mewn perthynas â deunydd hysbysebu a lunnir gan gorff); (b) gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau (ac eithrio’r corff) ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau).
|
44 |
At ddiben safon 56 (peiriannau hunanwasanaeth), mae cyfeiriad at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran golwg y deunydd (er enghraifft, mewn perthynas â lliw, maint, ffont a fformat unrhyw destun), ond nid yw’n golygu bod rhaid i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar sgrin yr un pryd â deunydd Saesneg.
|
45
|
At ddibenion safonau 60 i 64 (derbyn ymwelwyr)— (a) ystyr “derbynfa” yw ardal yn swyddfeydd a lleoliadau gwasanaeth corff lle y mae staff ar gael at ddiben croesawu personau; (b) ystyr “gwasanaeth derbynfa” yw gwasanaeth croesawu personau i swyddfeydd neu leoliadau gwasanaeth y corff gan staff sydd ar gael at y diben hwnnw; (c) mae “lleoliadau gwasanaeth” yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau celfyddydau, canolfannau cyngor a chanolfannau galw heibio.
|
46
|
At ddibenion safonau 7, 65 a 66 ystyr “hysbysiad” yw unrhyw hysbysiad y mae corff yn ei gyhoeddi, ond nid yw’n cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad.
|
47 |
At ddibenion safon 72 (gwahoddiad i dendro)— (1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. (2) Mae cyfeiriad at beidio â thrin fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft mewn perthynas â lliw neu ffont unrhyw destun); (b) maint y deunydd; (c) lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus; (ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; (d) fformat cyhoeddi unrhyw ddeunydd; ond ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg drwy beidio â chyhoeddi gwahoddiad i dendro yn Gymraeg yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
|
48 |
(1) At ddibenion safon 79, mae’r cyfeiriad at gorff yn llunio neu’n cyflwyno ei “hunaniaeth gorfforaethol” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, y ffordd y mae corff yn ei gyflwyno ei hun drwy ddatganiadau gweledol, yr enw neu’r enwau a ddefnyddir gan gorff, a’r brandio a’r sloganau a ddefnyddir gan gorff (er enghraifft, brandio a sloganau a argraffir ar ei bapur ysgrifennu). (2) Nid yw safon 79 yn berthnasol i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ddefnyddio enw cyfreithiol.
|
49 |
At ddibenion safonau 80, 81 a 82 (cyrsiau), ystyr “cwrs addysg” yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu neu ei darparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o’r cyhoedd; ond nid yw’n cynnwys— (a) gweithgareddau na chyrsiau sy’n cael eu darparu fel rhan o’r cwricwlwm yn unol ag unrhyw ddeddfiad; neu (b) seminarau na chyflwyniadau llafar sy’n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad.
|
50 |
At ddibenion y safonau, ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y cafodd ei ddeddfu neu ei wneud) sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol— (a) Deddf Seneddol; neu (b) Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. |
ATODLEN 2 Rheoliad 2(2)
Safonau Llunio Polisi
RHAN 1
Y SAFONAU
1 |
Safonau ynghylch ystyried effeithiau penderfyniadau polisi a wneir gan gorff ar y Gymraeg
|
Safon 84: |
Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
|
Safon 85: |
Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
|
Safon 86: |
Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n addasu polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
|
Safon 87: |
Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch yr effeithiau (pa un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
Safon 88: |
Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
|
Safon 89: |
Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen honno ystyried a cheisio barn ynghylch sut y gellid llunio neu addasu’r polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
|
Safon 90: |
Rhaid ichi lunio a chyhoeddi polisi dyfarnu grantiau (neu, pan fo’n briodol, ddiwygio polisi sydd eisoes yn bodoli) sy’n ei gwneud yn ofynnol ichi ystyried y materion a ganlyn pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grant— (a) pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol), y byddai dyfarnu grant yn eu cael ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (b) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (c) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau grant) fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; (ch) a oes angen ichi ofyn i’r ymgeisydd am grant am unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn eich cynorthwyo i asesu effaith dyfarnu grant ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
|
Safon 91: |
Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl (a pha un ai ydynt yn rhai positif neu’n rhai andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth yn eu cael ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
|
Safon 92: |
Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
|
Safon 93: |
Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi sydd o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar— (a) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
RHAN 2
DEHONGLI’R SAFONAU
|
Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ystyr “penderfyniad polisi” yw unrhyw benderfyniad a wneir gan gorff sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau neu gynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall, ac mae hynny’n cynnwys, ymysg pethau eraill (ac fel y bo’n briodol i’r corff), penderfyniadau ynghylch— (a) cynnwys deddfwriaeth; (b) arfer pwerau statudol; (c) cynnwys datganiadau polisi; (ch) strategaethau neu gynlluniau strategol; (d) strwythurau mewnol a lleoliadau swyddfa; (dd) recriwtio neu ddefnyddio gwirfoddolwyr.
|
3 |
Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny pa un ai ydynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. |
ATODLEN 3 Rheoliad 2(3)
Safonau gweithredu
RHAN 1
Y SAFONAU
1 |
Safonau ynghylch defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth fewnol corff
|
Safon 94: |
Rhaid ichi ddatblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol, gyda’r bwriad o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, a rhaid ichi gyhoeddi’r polisi hwnnw ar eich mewnrwyd.
|
Safon 95: |
Pan fyddwch yn cynnig swydd newydd i unigolyn, rhaid ichi ofyn i’r unigolyn hwnnw a yw’n dymuno i’r contract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau gael ei ddarparu yn Gymraeg; ac os yw’r unigolyn yn dymuno hynny rhaid ichi ddarparu’r contract yn Gymraeg.
|
Safon 96: |
Rhaid ichi— (a) gofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ohebiaeth bapur sy’n ymwneud â’i gyflogaeth, ac sydd wedi ei chyfeirio ato’n bersonol, yn Gymraeg, a (b) os yw cyflogai yn dymuno hynny, darparu unrhyw ohebiaeth o’r fath iddo yn Gymraeg.
|
Safon 97: |
Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu anghenion neu ofynion ei hyfforddiant yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.
|
Safon 98: |
Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu ei amcanion perfformiad yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.
|
Safon 99: |
Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu neu’n cofnodi ei gynllun gyrfa yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ddogfennau o’r fath iddo yn Gymraeg.
|
Safon 100: |
Rhaid ichi ofyn i bob cyflogai a fyddai’n dymuno cael unrhyw ffurflenni sy’n cofnodi ac yn awdurdodi— (a) gwyliau, (b) absenoldebau o’r gwaith, ac (c) oriau gwaith hyblyg, yn Gymraeg; ac os yw’n dymuno hynny rhaid ichi ddarparu unrhyw ffurflenni o’r fath iddo yn Gymraeg.
|
Safon 101: |
Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch ymddygiad yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
|
Safon 102: |
Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch iechyd a lles yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
|
Safon 103: |
Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch cyflogau neu fuddion yn y gweithle, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
|
Safon 104: |
Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch rheoli perfformiad, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
|
Safon 105: |
Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch absenoldeb o’r gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
|
Safon 106: |
Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch amodau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
|
Safon 107: |
Os byddwch yn cyhoeddi polisi ynghylch patrymau gwaith, rhaid ichi ei gyhoeddi yn Gymraeg.
|
2 |
Safonau ynghylch cwynion a wneir gan aelod o staff corff
|
Safon 108: |
Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o’ch staff— (a) gwneud cwynion ichi yn Gymraeg, a (b) ymateb i unrhyw gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg.
|
Safon 108A: |
Rhaid ichi ddatgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwynion y caiff pob aelod o staff— (a) gwneud cwyn ichi yn Gymraeg, a (b) ymateb i gŵyn a wnaed amdano ef yn Gymraeg; a rhaid ichi hefyd roi gwybod i bob aelod o staff am yr hawl honno.
|
Safon 109: |
Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi— (a) cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a (b) os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
|
Safon 110: |
Os byddwch yn cael cwyn gan aelod o staff neu’n cael cwyn ynghylch aelod o staff, a bod angen cyfarfod â’r aelod hwnnw o staff, rhaid ichi— (a) gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod; (b) esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os yw’n ofynnol; ac os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).
|
Safon 111: |
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chŵyn a wneir gan yr aelod hwnnw, neu mewn perthynas â chŵyn a wneir amdano ef, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff— (a) wedi gwneud y gŵyn yn Gymraeg, (b) wedi ymateb yn Gymraeg i gŵyn amdano ef, (c) wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu (ch) wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r gŵyn.
|
3 |
Safonau ynghylch corff yn disgyblu staff
|
Safon 112: |
Rhaid ichi ganiatáu i bob aelod o staff ymateb yn Gymraeg i honiadau a wneir yn ei erbyn mewn unrhyw broses ddisgyblu fewnol.
|
Safon 112A: |
Rhaid ichi— (a) datgan mewn unrhyw ddogfen sydd gennych sy’n nodi eich trefniadau ar gyfer disgyblu staff y caiff unrhyw aelod o staff ymateb yn Gymraeg i unrhyw honiadau a wneir yn ei erbyn, a (b) os byddwch yn dechrau gweithdrefn ddisgyblu mewn perthynas ag aelod o staff, rhoi gwybod i’r aelod hwnnw o staff am yr hawl honno.
|
Safon 113: |
Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi— (a) cynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, a (b) os yw’r aelod o staff yn dymuno i’r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
|
Safon 114: |
Os byddwch yn trefnu cyfarfod ag aelod o staff ynghylch achos disgyblu mewn perthynas â’i ymddygiad, rhaid ichi— (a) gofyn i’r aelod o staff a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a (b) esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu at y diben hwnnw os yw’n ofynnol; ac, os yw’r aelod o staff yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg yn y cyfarfod (os nad ydych yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).
|
Safon 115: |
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i aelod o staff beth yw’ch penderfyniad yn dilyn proses ddisgyblu, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os yw’r aelod hwnnw o staff— (a) wedi ymateb i honiadau yn ei erbyn yn Gymraeg, (b) wedi gofyn bod cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu yn cael ei gynnal yn Gymraeg, neu (c) wedi gofyn am gael defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfod ynglŷn â’r broses ddisgyblu.
|
4 |
Safonau ynghylch technoleg gwybodaeth a deunyddiau cymorth a ddarperir gan gorff, ac ynghylch y fewnrwyd
|
Safon 116: |
Rhaid ichi ddarparu meddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg y Gymraeg i’ch staff, a darparu rhyngwynebau Cymraeg ar gyfer meddalwedd (pan fo rhyngwyneb ar gael).
|
Safon 117: |
Rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun pob tudalen ar eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg, (b) bod pob tudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich mewnrwyd.
|
Safon 118: |
Rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun hafan eich mewnrwyd ar gael yn Gymraeg, (b) bod unrhyw destun Cymraeg ar hafan eich mewnrwyd (neu, pan fo’n berthnasol, bod hafan Gymraeg eich mewnrwyd) yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich mewnrwyd.
|
Safon 119: |
Bob tro y byddwch yn cyhoeddi tudalen newydd neu’n diwygio tudalen ar eich mewnrwyd, rhaid ichi sicrhau— (a) bod testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg, (b) bod unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen yn gweithredu’n llawn, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â thestun y dudalen honno.
|
Safon 120: |
Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich mewnrwyd sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi nodi’n glir ar y dudalen Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid darparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
|
Safon 121: |
Rhaid ichi neilltuo a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich mewnrwyd sy’n darparu gwasanaethau a deunydd cymorth i hybu’r Gymraeg ac i gynorthwyo eich staff i ddefnyddio’r Gymraeg.
|
Safon 122: |
Rhaid ichi ddarparu’r rhyngwyneb a’r dewislenni ar eich tudalennau mewnrwyd yn Gymraeg.
|
5 |
Safonau ynghylch corff yn meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi ei weithlu
|
Safon 123: |
Rhaid ichi asesu sgiliau Cymraeg eich cyflogeion.
|
Safon 124: |
Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg yn y meysydd a ganlyn, os ydych yn darparu hyfforddiant o’r fath yn Saesneg— (a) recriwtio a chyfweld; (b) rheoli perfformiad; (c) gweithdrefnau cwyno a disgyblu; (ch) ymsefydlu; (d) delio â’r cyhoedd; ac (dd) iechyd a diogelwch.
|
Safon 125: |
Rhaid ichi ddarparu hyfforddiant (yn Gymraeg) ar ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol mewn— (a) cyfarfodydd; (b) cyfweliadau; ac (c) gweithdrefnau cwyno a disgyblu.
|
Safon 126: |
Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith— (a) i’ch cyflogeion gael gwersi Cymraeg sylfaenol, a (b) i gyflogeion sy’n rheoli pobl eraill gael hyfforddiant ar ddefnyddio’r Gymraeg yn eu rôl fel rheolwyr.
|
Safon 127: |
Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i’ch cyflogeion sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymraeg sylfaenol gael hyfforddiant pellach, yn rhad ac am ddim, er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith.
|
Safon 128: |
Rhaid ichi ddarparu cyrsiau hyfforddi er mwyn i’ch cyflogeion ddatblygu— (a) ymwybyddiaeth o’r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth am hanes yr iaith a’i lle yn niwylliant Cymru); (b) dealltwriaeth o’r ddyletswydd i weithredu yn unol â safonau’r Gymraeg; (c) dealltwriaeth am y modd y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle . |
Safon 129: |
Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i gyflogeion newydd (er enghraifft, fel rhan o broses ymsefydlu), rhaid ichi ddarparu gwybodaeth er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg.
|
Safon 130: |
Rhaid ichi ddarparu geiriad neu logo ar gyfer llofnodion e-bost eich staff sy’n eu galluogi i ddynodi a ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu’r iaith.
|
Safon 131: |
Rhaid ichi ddarparu geiriad ar gyfer eich cyflogeion fydd yn eu galluogi i gynnwys fersiwn Gymraeg o’u manylion cyswllt mewn negeseuon e-byst, ac i ddarparu fersiwn Gymraeg o unrhyw neges sy’n hysbysu pobl eraill nad ydynt ar gael i ateb negeseuon ebost.
|
6 |
Safonau ynghylch recriwtio ac apwyntio
|
Safon 132: |
Pan fyddwch yn asesu’r anghenion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys— (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.
|
Safon 132A: |
Os byddwch wedi categoreiddio swydd fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu fod angen eu dysgu, rhaid ichi— (a) pennu hynny wrth hysbysebu’r swydd, a (b) hysbysebu’r swydd yn Gymraeg.
|
Safon 133: |
Pan fyddwch yn hysbysebu swydd, rhaid ichi ddatgan y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
|
Safon 133A: |
Os byddwch yn cyhoeddi— (a) ffurflenni cais am swyddi; (b) deunydd esboniadol ynghylch eich proses ar gyfer ymgeisio am swyddi; (c) gwybodaeth am eich proses gyfweld, neu am unrhyw ddulliau asesu eraill wrth ymgeisio am swyddi; (ch) swydd-ddisgrifiadau; rhaid ichi eu cyhoeddi yn Gymraeg a rhaid ichi sicrhau nad ydych yn trin unrhyw fersiynau Cymraeg o’r dogfennau yn llai ffafriol na fersiynau Saesneg ohonynt.
|
Safon 133B: |
Rhaid ichi beidio â thrin cais am swydd a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, o ran y dyddiad cau yr ydych yn ei osod ar gyfer cael ceisiadau, ac o ran amseriad rhoi gwybod i unigolion ynghylch penderfyniadau).
|
Safon 134: |
Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno cael cyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg ac, os yw unigolyn yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal unrhyw gyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).
|
Safon 135: |
Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflenni cais am swyddi— (a) yn rhoi lle i unigolion nodi eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad neu mewn unrhyw ddull arall o asesiad, a (b) yn esbonio y byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw os oes angen; ac, os yw’r unigolyn yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad neu’r asesiad, rhaid ichi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y cyfweliad neu asesiad (os nad ydych yn cynnal y cyfweliad neu’r asesiad yn Gymraeg heb y gwasanaeth cyfieithu hwnnw).
|
Safon 136: |
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i unigolyn beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am swydd, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os gwnaed y cais yn Gymraeg.
|
7 |
Safonau ynghylch arwyddion a arddangosir yng ngweithle corff
|
Safon 137: |
Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), rhaid i unrhyw destun sy’n cael ei arddangos ar yr arwydd gael ei arddangos yn Gymraeg (pa un ai ar yr un arwydd sy’n arddangos y testun Saesneg cyfatebol neu ar arwydd ar wahân), ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.
|
Safon 138: |
Pan fyddwch yn gosod arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd yn eich gweithle (gan gynnwys arwyddion dros dro), a bod yr arwydd hwnnw’n cyfleu yr un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.
|
Safon 139: |
Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion a arddangosir yn eich gweithle yn gywir o ran ystyr a mynegiant.
|
8 |
Safon ynghylch cyhoeddiadau a negeseuon sain yng ngweithle corff
|
Safon 140: |
Pan fyddwch yn gwneud cyhoeddiadau dros offer sain yn eich gweithle, rhaid i’r cyhoeddiad hwnnw gael ei wneud yn Gymraeg, ac os gwneir y cyhoeddiad yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf. |
RHAN 2
SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL– AMODAU ARBENNIG
9 |
Pan fydd hysbysiad cydymuffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y gwêl Comisiynydd y Gymraeg yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2. |
TABL 1
Rhes |
Colofn 1
Prif safon |
Colofn 2
Safon ddibynnol |
(1)
|
Gweithdrefnau cwyno
Safon 108 |
Safon 108A |
(2)
|
Gweithdrefnau cwyno
Safon 108A |
Safon 108 |
(3)
|
Disgyblu staff
Safon 112 |
Safon 112A |
(4)
|
Disgyblu staff
Safon 112A |
Safon 112 |
(5) |
Y fewnrwyd
Safon 117, 118 neu 119 |
Safon 120
|
(6) |
Recriwtio ac apwyntio
Safon 132
|
Safon 132A |
(7)
|
Recriwtio
Safon 133 |
Safon 133A Safon 133B Safon 136
|
(8)
|
Arwyddion mewnol
Safon 137 |
Safon 139
|
RHAN 3
DEHONGLI’R SAFONAU
10 |
Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
|
11 |
(1) Nid yw’n ofynnol i gorff gyfieithu i’r Gymraeg unrhyw destun nad yw wedi ei lunio (“testun A”). (2) Ni fydd corff yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol os nad yw’n cyfieithu testun A i’r Gymraeg ond gweler is-baragraff (3). (3) Rhaid i gorff ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg o destun A os yw person arall wedi llunio testun A yn Gymraeg yn unol— (a) â’i Gynllun Iaith Gymraeg; (b) â dyletswydd i gydymffurfio â safonau; (c) â Rheolau Sefydlog y Cynulliad; (ch) ag adran 35(1C) o Ddeddf 2006; neu (d) â Chynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad. (4) Yn y paragraff hwn— (a) ystyr “Cynllun Iaith Gymraeg” yw cynllun iaith Gymraeg a lunnir yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([7]); (b) ystyr “dyletswydd i gydymffurfio â safonau” yw dyletswydd i gydymffurfio â safon o dan adran 25 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011; (c) ystyr “Deddf 2006” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006([8]); (ch) ystyr “Rheolau Sefydlog y Cynulliad” yw rheolau sefydlog a wnaed o dan adran 31 o Ddeddf 2006; (d) ystyr “Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad” yw’r Cynllun a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.
|
12 |
At ddibenion safonau 117, 118 a 119 (mewnrwyd corff), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw, maint, ffont, a fformat unrhyw destun); (b) pryd y caiff y deunydd ei gyhoeddi ar y fewnrwyd; ond nid yw’n golygu bod yn rhaid i’r deunydd Cymraeg ymddangos ar yr un dudalen â’r deunydd Saesneg, nac ar dudalen a fydd yn debygol o agor cyn y fersiwn Saesneg gyfatebol o’r dudalen.
|
13
|
At ddibenion safonau 133A (recriwtio) a 137 (arwyddion mewnol), mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg pethau eraill (ac yn ogystal â materion penodol y cyfeirir atynt mewn unrhyw safon unigol), peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran— (a) golwg y deunydd (er enghraifft o ran lliw neu ffont unrhyw destun); (b) maint y deunydd; (c) lleoliad ac amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw fan cyhoeddus; (ch) pryd a sut y caiff y deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos; (d) fformat cyhoeddi’r deunydd.
|
14 |
At ddibenion y safonau, nid yw gofyniad i gyhoeddi, darparu neu arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid cyhoeddi, darparu neu arddangos deunydd yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon).
|
15 |
Nid yw safonau 117 i 120 (y fewnrwyd) yn gymwys i— (a) dogfennau y darperir dolen iddynt ar y fewnrwyd, deunydd hysbysebu ar y fewnrwyd, na chlipiau fideo a sain ar y fewnrwyd (gweler safonau 101 i 107 am ddarpariaeth benodol mewn perthynas â dogfennau); (b) gwybodaeth a gyflwynir gan bersonau ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar fewnrwyd corff (er enghraifft, ar adran ar gyfer sylwadau neu ar fforwm trafod).
|
16 |
At ddibenion safonau 132 a 132A yn unig— (a) mae “swydd” yn cynnwys penodiad cyhoeddus; (b) ystyr “penodiad cyhoeddus” yw unrhyw benodiad i gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus.
|
17 |
Nid yw safon 140 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng. |
ATODLEN 4 Rheoliad 2(4)
Safonau Cadw Cofnodion
RHAN 1
Y SAFONAU
1 |
Safonau ynghylch cadw cofnodion gan gorff
|
Safon 141: |
Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau.
|
Safon 142: |
Rhaid ichi ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
|
Safon 143: |
Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg (pa un ai yw’r gŵyn yn ymwneud â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy ai peidio).
|
Safon 144: |
Rhaid ichi gadw cofnod o’r camau yr ydych wedi eu cymryd i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
|
Safon 145: |
Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau iaith Gymraeg eich cyflogeion a wnaed gennych yn unol â safon 123), o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny.
|
Safon 146: |
Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o— (a) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a ddarparwyd yn Gymraeg (yn unol â safon 124), a (b) os darparwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn unol â safon 124, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs.
|
Safon 147:
|
Rhaid ichi gadw cofnod o bob asesiad a gynhaliwch (yn unol â safon 132) mewn cysylltiad â’r sgiliau Cymraeg y gallai fod eu hangen mewn perthynas â swydd newydd neu swydd wag.
|
Safon 148: |
Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 132) fel swyddi sy’n gofyn— (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. |
RHAN 2
DEHONGLI’R SAFONAU
2 |
Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn.
|
3 |
At ddibenion safonau 141, 145, 146 a 148, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun. |
ATODLEN 5 Rheoliad 2(5)
Safonau sy’n ymdrin â Materion Atodol
RHAN 1
SAFONAU CYFLENWI GWASANAETH
1 |
Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cyflenwi gwasanaethau
|
Safon 149: |
Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
2 |
Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
|
Safon 150: |
Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn— (i) sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (ii) sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan, ac (c) sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
3 |
Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc.
|
Safon 151: |
Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer— (i) goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, (ii) hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a (iii) hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny, (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan, ac (c) sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
4 |
Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau cyflenwi gwasanaethau
|
Safon 152: |
(1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn honno a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol. (5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
5 |
Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau
|
Safon 153: |
Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
|
6 |
Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
|
Safon 154: |
Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
RHAN 2
SAFONAU LLUNIO POLISI
7 |
Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau llunio polisi
|
Safon 155: |
Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
8 |
Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
|
Safon 156: |
Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn— (i) sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (ii) sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan, ac (c) sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
9 |
Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio
|
Safon 157: |
Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan, ac (c) sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
10 |
Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau llunio polisi
|
Safon 158: |
(1) Rhaid ichi lunio adroddiad, (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol. (5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
11 |
Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau llunio polisi
|
Safon 159: |
Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
|
12 |
Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
|
Safon 160: |
Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
RHAN 3
SAFONAU GWEITHREDU
13 |
Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau gweithredu
|
Safon 161: |
Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
14 |
Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
|
Safon 162: |
Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn— (i) sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (ii) sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich mewnrwyd.
|
15 |
Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc.
|
Safon 163: |
Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer— (i) goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, (ii) hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a (iii) hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich mewnrwyd.
|
16 |
Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau gweithredu
|
Safon 164: |
(1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)— (a) nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 145); (b) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd gennych yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 146); (c) os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs gennych yn ystod y flwyddyn, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 146); (ch) nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn— (i) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol (ii) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd, (iii) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, neu (iv) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol, (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 148); (d) nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol. (5) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael— (a) ar eich gwefan, a (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
17 |
Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau gweithredu
|
Safon 165: |
Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
|
18 |
Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
|
Safon 166: |
Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
RHAN 4
SAFONAU CADW COFNODION
19 |
Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cadw cofnodion
|
Safon 167: |
Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael— (b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
|
20 |
Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
|
Safon 168: |
Rhaid ichi ddarparu unrhyw gofnodion a gadwasoch yn unol â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy i Gomisiynydd y Gymraeg, os bydd y Comisiynydd yn gofyn am y cofnodion hynny. |
RHAN 5
DEHONGLI’R SAFONAU
21 |
Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhannau 1 i 4 fel a ganlyn.
|
22 |
At ddibenion safonau 152, 158 a 164, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.
|
23 |
At ddiben y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon). |
RHAN 6
DARPARIAETH ATODOL
24 |
Gweithdrefnau cwyno
|
|
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff— (a) cydymffurfio â hwy mewn un weithdrefn gwyno; (b) diwygio gweithdrefn gwyno sy’n bodoli eisoes. (2) Y safonau yw— (a) safon 150; (b) safon 156; (c) safon 162.
|
25 |
Trefniadau goruchwylio
|
|
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy un set o drefniadau goruchwylio. (2) Y safonau yw— (a) safon 151; (b) safon 157; (c) safon 163.
|
26 |
Adroddiadau blynyddol
|
|
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy gynnwys yr wybodaeth angenrheidiol mewn un adroddiad blynyddol o’r enw “Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg”. (2) Y safonau yw— (a) safon 152; (b) safon 158; (c) safon 164.
|
27 |
Rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae corff yn bwriadu cydymffurfio â safonau
|
|
(1) Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy mewn un ddogfen. (2) Y safonau yw— (a) safon 153; (b) safon 159; (c) safon 165. |
ATODLEN 6 Rheoliad 3
Amgueddfa Genedlaethol Cymru (“The National Museum of Wales”)
Archwilydd Cyffredinol Cymru (“The Auditor General for Wales”)
Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd Addysg Uwch (“The Quality Assurance Agency for Higher Education”)
Canolfan Mileniwm Cymru (“Wales Millennium Centre”)
Colegau Cymru Cyfyngedig (“Colleges Wales Limited”)
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (“The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales”)
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (“The Commission for Equality and Human Rights”)
Y Comisiwn Etholiadol (“The Electoral Commission”)
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru (“The Local Democracy and Boundary Commission for Wales”)
Comisiynydd Plant Cymru (“The Children’s Commissioner for Wales”)
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (“The Commissioner for Older People in Wales”)
Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“The Natural Resources Body for Wales”)
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig (“Student Loans Company Limited”)
Cyngor Celfyddydau Cymru (“The Arts Council of Wales”)
Cyngor Chwaraeon Cymru (“The Sports Council for Wales”)
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (“Wales Council for Voluntary Action”)
Cyngor Llyfrau Cymru (“The Welsh Books Council”)
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (“The Welsh Local Government Association”)
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (“National Botanic Garden of Wales”)
Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (“The British Broadcasting Corporation”)
Y Gronfa Loteri Fawr (“The Big Lottery Fund”)
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (“The National Library of Wales”)
The National Theatre of Wales
NIACE
Opera Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig (“Welsh National Opera Limited”)
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales”)
Sianel 4 Cymru
Swyddfa Archwilio Cymru (“The Wales Audit Office”)
Y Swyddfa Gyfathrebiadau (“The Office of Communications”)
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (“The Information Commissioner’s Office”)
Theatr Genedlaethol Cymru
Uned Ddata Llywodraeth Leol – Cymru (“The Local Government Data Unit – Wales”)